Rydym yn dîm traws-sector o dalent lefel uwch gydag arddulliau, gwybodaeth a safbwyntiau amrywiol sy’n gweithio gyda’n cleientiaid i gyd-ddylunio ymatebion wedi’u teilwra’n benodol i heriau cymhleth mewn meysydd strategol, sefydliadol ac economaidd-gymdeithasol ac wrth ddarparu gwasanaethau. Rydym yn ceisio dod â’r gorau o bob sector i helpu a chefnogi sefydliadau i gyflawni eu canlyniadau.

Mae Cadenza yn bartneriaeth o uwch arweinwyr profiadol ac mae ein cryfder yn y sectorau niferus yr ydym wedi gweithio ynddynt ac wedi gweithio â hwy. Mae gennym weledigaeth gyffredin a gwerthoedd a ddaliwn oll: yn bennaf, ymrwymiad i ymateb mewn ffordd greadigol a phragmatig i helpu sefydliadau i wella llesiant cymunedau.

Mae ein profiad cyfunol yn rhychwantu meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, tai a datblygiad cymunedol, y celfyddydau cymunedol a pherfformio, llywodraeth leol, cyfiawnder, mentrau cymdeithasol a chydfuddiannol, cychwyn busnesau a mentrau masnachol.

Mae ein cydbwysedd iach o sgiliau, a’r pwrpas moesol a rennir gennym, yn ein galluogi i gyflwyno syniadau a phrofiadau amrywiol sy’n arwain at gyfuniad unigryw sy’n greadigol ond sydd hefyd â’i draed ar y ddaear.