Rydym yn dîm sydd wedi adeiladu rhwydwaith o gymdeithion, sefydliadau partner a noddwyr sy’n rhannu ein gweledigaeth a’n gwerthoedd wrth gyflwyno newid mewn gwasanaethau cyhoeddus sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac ar ganlyniadau. Rydym yn dod â’r amrywiaeth profiad hwn i’n dull o weithredu drwy dri maes o ymgysylltiad â’n cleientiaid:
ARWEINIAD
Galluogi byrddau a thimau gweithredol i ddiffinio eu sefydliad delfrydol a chyflwyno canlyniadau sy’n ychwanegu gwerth, sy’n effeithlon ac sy’n effeithiol drwy:
- Ddiffinio’r gwerthoedd sy’n gyrru eich gweledigaeth strategol a’ch rhesymau dros newid
- Cynllunio rhaglenni ar gyfer newid a galluogi iddynt gael eu cyflawni
- Datblygu gallu a chapasiti sefydliadol
- Hwyluso rhwydweithiau mentora a gwella gyda chymheiriaid
- Hwyluso’r broses o drosglwyddo gwybodaeth a sgiliau
- Cysylltu sefydliadau gyda’u staff a’u cwsmeriaid trwy fodel o ymgysylltu sy’n gweithio drwy gyd-gynhyrchu
TREFN A STRATEGAETH
Denu pobl ar draws y busnes/sector i lunio, deall a bod yn berchen ar y newid sydd ei angen i greu’r drefn ‘ddelfrydol’ drwy:
- Greu’r amgylchedd cywir ar gyfer cyflawni newid llwyddiannus
- Strwythuro trefniadau rheoli rhaglenni a phrosiectau
- Cyd-gynllunio gweithgareddau newid busnes
- Nodi mesurau llwyddiant – wedi’u hysgogi gan egwyddorion gwerth am arian
- Rheoli perfformiad rhaglenni newid
- Darparu diwylliant sy’n seiliedig ar werthoedd drwy weithredu fframweithiau cymhwysedd ymddygiadol
- Meithrin cadernid sefydliadol ar gyfer newid parhaol
UN GWASANAETH CYHOEDDUS
Rydym yn hwyluso’r broses o ddiwygio’r sector drwy gydweithio a rhannu. Rydym yn rhoi’r cyfle i bobl glywed am brofiadau a dirnadaethau ystod eang o weithredwyr, a’r gweithwyr lefel uwch sy’n dylanwadu ac yn gwneud y penderfyniadau er mwyn pennu a symbylu camau gweithredu sy’n darparu cyd-agendâu at ddiben cyffredin.